Uwch Swyddog Data a Dadansoddi
- Employer
- S4C
- Location
- Carmarthen, Carmarthenshire (Sir Gaerfyrddin)
- Salary
- Competitive
- Closing date
- 26 Jul 2019
View more
- Job Role
- Insight Manager/Director, Senior Research Executive
- Sector
- Generalist
- Contract Type
- Permanent
- Hours
- Full Time
Rôl yr Uwch Swyddog Data a Dadansoddi yw adrodd yn feintiol ac yn ansoddol ar berfformiad S4C, ac ymchwilio dyheadau’r gynulleidfa. Byddwch yn asesu tueddiadau yn y byd cyfryngau er mwyn rhagweld gofynion y dyfodol.
Byddwch yn rhoi cyngor i’r adran ac yn cyfrannu at drafodaethau am gynnwys, amserlennu a chyfathrebu.
Manylion eraill
Lleoliad: Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. Mae S4C yn cynnig trefniadau gweithio’n hyblyg.
Cyflog: Cystadleuol
Cytundeb: Parhaol
Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos ond oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12:00 y prynhawn ar ddydd Mercher 17 Gorffennaf 2019 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. Nid ydym yn derbyn CV.
Get job alerts
Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.
Create alert