Skip to main content

This job has expired

Pennaeth Data a Dadansoddi

Employer
S4C
Location
Carmarthen, Carmarthenshire (Sir Gaerfyrddin)
Salary
Competitive
Closing date
26 Jul 2019

Rôl y Pennaeth Data a Dadansoddi yw sicrhau bod dadansoddi, data a barn y gynulleidfa wrth wraidd yr holl benderfyniadau strategol a golygyddol pwysig a gymerir.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am uned sy’n gyfrifol am:

  • data BARB
  • data gwerthfawogaid
  • ymchwil tracio delwedd
  • data Fy S4C
  • data cyfryngau cymdeithasol, gwylio ar-lein a gwenfannau
  • ymchwil ansoddol o bob math

Mae ffocws ar y dyfodol yn hanfodol, felly disgwylir person sy’n agored i ffyrdd newydd a diddorol o fesur defnydd cyfryngau a barn y gynulleidfa.  Person sy’n cymryd diddordeb mewn datblygiadau ym maes ymchwil a mesur,  ac sy’n ymwybodol o newidiadau mewn darlledu a diwydiannau cysylltiedig ac yn dymuno rhannu dadansoddi a dysgu ar draws y sefydliad.

Manylion eraill

Lleoliad: Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.  Mae S4C yn cynnig trefniadau gweithio’n hyblyg. 

Cyflog: Cystadleuol

Cytundeb: Parhaol

Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos ond oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cyfnod prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12:00 y prynhawn ar ddydd Mercher 17 Gorffennaf 2019 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.  Nid ydym yn derbyn CV.

Get job alerts

Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.

Create alert